Ad-drefnu llywodraeth leol yn y gorllewin – syniad amgen?

Dyma lythyr yr wyf wedi sgrifennu at y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, sy’n cynnig syniad newydd posib ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol.

Annwyl Leighton

Ynglŷn ag: Ad-drefnu Llywodraeth Leol yn y gorllewin

‘Rwy’n ysgrifennu atoch i rannu rhai o fy syniadau ynglŷn â ffordd synhwyrol i edrych ar ffurf llywodraeth leol yn y gorllewin (yn bennaf yr hen Ddyfed) i’r dyfodol. Fy syniadau personol yw rhain fel Aelod Cynulliad yn yr ardal ac nid ydynt i’w dehongli yn cynrychioli barn ffurfiol Plaid Cymru.

Mae dwy egwyddor yn ganolog i fy ystyriaethau yn y llythyr yma:

1. Yr angen i greu model sy’n adlewyrchu realiti darparu gwasanaethau a democratiaeth mewn ardal wledig

2. Yr angen i sicrhau fod unrhyw ad-drefnu llywodraeth leol yn y dyfodol yn cryfhau, nid gwanhau, lle’r Gymraeg o fewn gweinyddiaeth a bywyd cyhoeddus ac yn adlewyrchu realiti cymdeithasol ac economaidd cymunedau Cymraeg.

Yn gyntaf, gaf i gyfeirio at Argymhelliad Adroddiad Williams, sef i ail-greu yr hen sir Dyfed neu i gyfuno Penfro a Cheredigion a chadw Shir Gâr. Rwyf eisoes wedi datgan fy ngwrthwynebiad i gyfuno Penfro a Cheredigion – ar sail y pellter a’r diffyg perthynas rhwng prif ganolfannau, megis Aberystwyth a Hwlffordd a Doc Penfro ac yn ogystal y peryg o wanhau y Gymraeg mewn gweinyddiaeth a darparu gwasanaethau, a fyddai’n debygol iawn o ddilyn cyfuno ardaloedd dwyieithog a naturiol Gymraeg gyda rhai, yn bennaf, Saesneg eu hiaith.

Mae gwell cyd-bwysedd economaidd, cymunedol ac ieithyddol i opsiwn arall Williams, sef yr hen Ddyfed. O ddewis rhwng y ddwy opsiwn yma yn unig, yna mae’r opsiwn Dyfed yn sicr yn rhagori ar yr opsiwn o Geredigion-Penfro. Er hyn, fel eraill, dwi’n pryderu y bydd ardaloedd mwy poblog a threfol ar hyd coridor M4-A40 yn dominyddu Cyngor o’r math yma, ac yn anwybyddu anghenion mwy gwledig. Dyna’n sicr oedd profiad rheiny fu’n glwm wrth yr hen Gyngor Sir Dyfed.

Barn Cyngor Sir Ceredigion, a Phlaid Cymru o fewn y Cyngor hynny, yw i gadw y Cyngor Sir fel endid ar wahân. Fe rydw i yn deall pam wrth gwrs – mae perfformiad y Cyngor yma, er bach ei faint, gyda’r gorau yng Nghymru, ac mewn ambell faes pwysig, y gorau yng Nghymru. Nid ar chwarae bach y dylid taflu hyn bant ac fe rydw i yn barod iawn i gefnogi cadw Cyngor Sir Ceredigion yn ei ffurf bresennol. Fe ellid adeiladu ar hyn a chreu model o gydweithrediad a phartneriaeth ffurfiol rhwng nifer o gynghorau bach, gwledig cyfochrog. Gellid defnyddio Uwch-Gyngor o’r math yma i ddarparu rhai gwasanaethau yn fwy effeithiol a strategol ar draws ardal ranbarthol, tra’n caniatáu cynghorau lleol i ddarparu a phenderfynu ar wasanaethau eraill yn fwy lleol. Gellid creu Uwch-Gyngor Rhanbarthol i adlewyrchu’r cymunedau arfordirol Cymraeg o Shir Fôn i Shir Gâr neu Uwch-Gyngor Rhanbarthol i gynnwys 4 Cyngor Ardal Powys a’r hen Ddyfed. Cynghorwyr o’r Cynghorau lleol fyddai’n ffurfio’r Uwch-Gyngor.

‘Rwy’n troi nawr at opsiwn newydd, ac un sydd yn fy marn i yn haeddu ystyriaeth a thrafodaeth yng nghyd-destun y gorllewin – sef, rhannu yr hen Ddyfed rhwng y de a’r gogledd yn hytrach na rhwng y gorllewin a’r dwyrain. O wneud hyn, ni fyddai ffiniau presennol Ceredigion, Penfro na Shir Gâr yn cael eu cadw yn eu ffurf bresennol. Fe fyddid yn creu dwy sir newydd:

  1. Ceredigion yn llawn, gogledd Sir Benfro a gogledd Shir Gar
  2. De Shir Gâr a de Sir Benfro.

At bwrpas y llythyr yma, galwaf un Cyngor yn Gogledd Dyfed a’r llall yn De Dyfed

I bob pwrpas byddai Gogledd Dyfed yn Gyngor a fyddai’n cynnwys y cylchoedd gwledig o gwmpas yr hen drefi marchnad a chanolfannau gwasanaeth:

Llanymddyfri

Llanbedr Pont Steffan

Llandysul

Castell Newydd Emlyn

Crymych

Aberteifi

Aberaeron

Tregaron

Aberystwyth

Gan ddibynnu beth yw’r bwriad gyda’r Powys presennol, fe ellid ychwanegu yr ardal o gwmpas Machynlleth hefyd i’r Cyngor newydd yma. Mi fyddai hyn yn cynnwys 6 ward o Gyngor Shir Gâr, 4 ward o Gyngor Sir Benfro, 2 ward o Bowys a 42 ward o Geredigion. Cyfanswm o 54 ward. Y cyfanswm o etholwyr fyddai 76,492 (heb gynnwys dan18 oed). Gellid ychwanegu at faint y Cyngor yma ymhellach drwy ystyried cynnwys ardaloedd Abergwaun a/neu Llandeilo.

Mantais yr opsiwn yma fyddai i greu dau gyngor sy’n adlewyrchu’n well y gwahaniaethau gwledig a’r gwahaniaethau ieithyddol o fewn yr hen Ddyfed. Mae canran y siaradwyr Cymraeg yng ngogledd yr hen Ddyfed yn sylweddol uwch nag yn y de ac felly fe ellid creu Cyngor sy’n gwasanaethu a gweinyddu yn naturiol yn Gymraeg. Byddwn yn disgwyl i Gyngor De Dyfed hefyd weithredu yn ddwyieithog. Mae yna fudd ieithyddol o greu Gogledd a De Dyfed, ond hefyd mae yna agweddau cyffredin a pherthynas hanesyddol clos rhwng cymunedau y Tywi a’r Teifi a chynunedau dyffryn Teifi a’r Preseli. Rhaniad gweinyddol yn unig a fu’r Teifi erioed ac mae’r cymunedau yma yn naturiol agos i’w gilydd – o ran patrwm economaidd, cymdeithasol ac addysgiadol.

Os bydd newid ffiniau cynghorau lleol yn y gorllewin, yna mae’r opsiwn i ffurfio Gogledd Dyfed a De Dyfed yn sicr yn haeddu ystyriaeth o ddifri’. Mae’n sicr yn fwy radical na’r hyn sydd wedi ei grybwyll hyd yn hyn, ac, yn fy marn i, mae’n fwy cynaliadwy a chynrychiadol o realiti economaidd a chymdeithasol yr ardal.

Byddaf yn rhannu’r llythyr yma yn helaeth er mwyn sbarduno trafodaeth ar y pwnc.

Yn gywir

Elin Jones AC

 

Comments are closed.