Pleidleisiwch dros y Mwnt!

Gyda Roy Noble yn lansio 10 'lle arbennig' yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Gyda Roy Noble yn lansio 10 ‘lle arbennig’ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol


Mae Mwnt ymhlith y 10 lle ar restr fer derfynol cystadleuaeth ‘mannau arbennig’ yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Maent nawr yn gofyn i’r cyhoedd i bleidleisio arlein i ddewis y lle mwyaf arbennig yng Nghymru. Mae Mwnt yn wynebu cystadleuaeth oddi wrth lefydd fel Eryri, Penrhyn Gwyr a’r Gelli Gandryll.

Mae Mwnt yn un o lecynnau mwyaf arbennig arfordir Cymru. Mae’n leoliad prydferth a distaw, gyda’i eglwys o’r 14eg ganrif a thraeth godidog. Fel gweddill arfordir Ceredigion mae’n hafan i fywyd gwyllt y môr. Mae’n le sydd ganddo awyrgylch wych ac yn le i greu atgofion unigryw. Rwy’n gobeithio y bydd pobl Ceredigion yn pleidleisio dros Mwnt fel lle arbennig Cymru.

Pleidleisiwch trwy Drydar gan ddefnyddio #lleoeddarbennig @NTWales, neu ar Facebook http://on.fb.me/1nJMU6f

Comments are closed.