Mae’r Cardis yn hael, fel arfer

somerset silage

Gwych yw gweld amaethwyr a pherchnogion loriau yng Ngheredigion yn rhoi help llaw i’r ffermwyr hynny a ddioddefodd o’r llifogydd yng Ngwlad yr Haf. Mae dirfawr angen bwyd i’r anifeiliaid yno, a dros y penwythnos fe aeth llwyth mawr arall o wair, wedi ei roi gan ffermwyr gogledd y sir y tro hwn, yn ychwanegol i’r llwyth a aeth o ardal Aberteifi wythnos dwetha.

Diolch i Aled Rees (cadeirydd lleol UAC), cwmniau loriau lleol, a’r holl ffermwyr yng Ngheredigion sydd wedi rhoi gwair i helpu pobl Gwlad yr Haf.

Comments are closed.