Welsh Government backs down over Financial Contingency Fund for students. Success for campaign against £2.1 million cuts – for now

Elin lampeter uni

Today the Welsh Government has caved in to protests against its shock decision to axe the £2.1 million Financial Contingency Fund for universities. The Education Minister has announced that the Fund will remain in place for 2014-15.
I have previously joined student leaders in campaigning against the move since the Education Minister announced the cut three weeks ago.
The FCF was used to provide small emergency loans and grants to students who found themselves in financial distress, and is widely credited with enabling students who suffered unexpected financial problems to continue their studies instead of having to withdraw.
This is great news for students and universities, and congratulations to NUS Wales and the students’ unions on local campuses for leading this campaign. It’s clear from meeting students over the past couple of weeks that the axing of this fund – and the terrible timing of the announcement just before the start of the academic year – was very bad news for the most vulnerable students.
I will continue to press the Minister to make a commitment for more than one-year and to retain this fund for the longer term.
The effect of any cut to the Fund on universities in Ceredigion would be particularly acute, as there are fewer part-time jobs available to supplement students’ incomes, and the fact that many students from vulnerable backgrounds choose to come here for the safe, welcoming environment that our campuses offer.

Llywodraeth Cymru’n ailfeddwl toriadau i’r Gronfa Ariannol – am nawr. Llwyddiant Myfyrwyr yn eu hymgyrch yn erbyn toriadau £2.1 miliwn

Elin lampeter uni

Heddiw, ildiodd Llywodraeth Cymru i bwysau arnynt ailfeddwl eu penderfyniad annisgwyl i ddiddymu’r Gronfa Ariannol wrth Gefn i Brifysgolion. Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg y byddai’r gronfa yn parhau yn 2014-15.
Ymunais i gydag arweinwyr undebau myfyrwyr er mwyn ymgyrchu yn erbyn y toriadau pan gyhoeddwyd y newyddion dair wythnos yn ôl.
Defnyddiwyd y Gronfa i ddarparu benthyciadau a grantiau bychain i fyfyrwyr a oedd yn mynd trwy anawsterau ariannol annisgwyl, a bu’n gymorth mawr i nifer fedru parhau gyda’u astudiaethau yn hytrach na gorfod tynnu’n ôl o Brifysgol.
Mae ail feddwl y penderfyniad gwreiddiol yn newyddion gwych i fyfyrwyr a phrifysgolion. Llongyfarchiadau mawr i NUS Cymru ac undebau myfyrwyr ein prifysgolion lleol am arwain yr ymgyrch. Mae’n glir, wedi i mi gwrdd â myfyrwyr dros y pythefnos diwethaf, fod diddymu’r gronfa – ac hefyd amseriad gwarthus y cyhoeddiad fis cyn dechrau’r tymor newydd – yn ergyd ofnadwy i fyfyrwyr bregus.
Byddaf yn parhau i roi pwysau ar y Gweinidog i ymrwymo i gadw’r cronfa mewn lle am fwy na blwyddyn ychwanegol.
Byddai effeithiau torri’r gronfa yn enwedig o drom ar brifysgolion Ceredigion, gan fod llai o gyfleon i fyfyrwyr i weithio’n rhan-amser i ennill incwm, a’r ffaith fod nifer o bobl o gefndiroedd bregus yn dod i astudio yn yr amgylchedd ddiogel, groesawgar sydd gennym yma.

Streic Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru/National Library of Wales

Rwy’n cefnogi achos gweithwyr y Llyfrgell Genedlaethol yn llawn. Drwy gadw mewn cysylltiad gyda’r Undebau gweithgar, rwyf yn ymwybodol iawn o sefyllfa cyflogau staff y Llyfrgell Genedlaethol. Mae gormod o weithwyr ar gyflog yn is na’r Cyflog Byw ac mae’n annerbyniol fod cyflog y staff wedi gostwng o 20% mewn termau real dros y 5 mlynedd ddiwethaf. Mae’n gwbl amlwg taw gwraidd y broblem yw’r toriadau llym gan Lywodraeth Glymblaid San Steffan i gyllid cyhoeddus sy’n parhau hyd heddiw, ond mae cyfrifoldeb hefyd yn gorwedd ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru i sicrhau dosbarthiad tecach o’r gyllideb Gymreig.

Ni fyddai staff y Llyfrgell yn cymryd cam mor ddifrifol â streicio heb fod yn teimlo’n gryf iawn dros yr anghyfiawnder yma. Fe roedd y canrannau uchel o aelodaeth o blaid streicio o fewn y dair undeb yn adlewyrchiad grymus o ddwyster anfodlonrwydd y staff.

Mae ymrwymiad a theyrngarwch y staff i’r Llyfrgell ac i’w galwedigaeth wedi bod yn destun balchder i fi ar hyd y blynyddoedd. Mae angen adfer y sefyllfa yna. Mae angen i reolwyr y Llyfrgell weithio nawr gyda’r Undebau a Llywodraeth Cymru i fynnu setliad tecach i weithwyr y Llyfrgell. Fe fydda i yn barod i gyd-weithio gyda phawb i sicrhau y canlyniad yma.

The National Library Strike, 10/09/14

Llyfrgell Genedlaethol Cymru/National Library of Wales

I fully support the staff of the National Library of Wales. Through regular contact with the trade unions, I’m very aware of the situation regarding pay at the Library. Too many workers earn less than the Living Wage, and it’s unacceptable that overall staff pay has reduced by 20% in real terms over the past five years. It’s obvious that the root cause is the agenda of cuts and austerity that’s coming from the Coalition Government in Westminster, but responsibility also rests with the Welsh Government to secure a fairer distribution of the Welsh budget.

The staff of the Library wouldn’t take such a drastic step as striking without feeling very strongly about this injustice. The extraordinarily high percentages in favour of industrial action in the three unions’ ballots is a powerful demonstration of the staff’s feelings.

The staff’s loyalty and commitment to the Library and to their profession has been a source of great pride for me over the years. This situation needs to be restored. The Library’s management now needs to work with the Unions and the Welsh Government to demand a fairer settlement for workers at the National Library. I stand ready to work with everyone to secure this result.

Ambulance Issues Cause Concern in Ceredigion and throughout Wales.

Elin JOnes Ysbyty Bronglais

 

I was greatly concerned about the news that Ambulance response times have continued to worsen in Wales under the Labour-run Government, with Ceredigion suffering some of the worst figures. The Ambulance Trust’s target is to meet 65% of urgent calls within 8 minutes. The figure for July was 58.3%, with some areas, including Ceredigion, dipping below 50%.

The Welsh Government has announced plans for the ‘Alternative Transport Scheme’, which encourages low-priority patients to find other transport such as taxis or lifts, to be extended to north Wales in addition to the existing pilot project in the south-east.

As Shadow Health Minister, I am deeply concerned about this, because the ambulance service is undoubtedly under ever-increasing stress. I welcome the investment in new vehicles and the recruitment of extra staff, but despite repeated promises from the Welsh Government, the performance of the ambulance service continues to be a matter of huge concern to the people of Ceredigion and across Wales.

The issue needs to be looked at as a whole, with better integration with Health Boards in order to minimise delays in transferring patients. We will be looking carefully at the results of the expanded trial of the ‘Alternative Transport Scheme’. While it’s understandable that the ambulance service should prioritise urgent cases, alternative means of transport aren’t always available to vulnerable people, and we have to make sure that areas such as Ceredigion aren’t further disadvantaged.

The issue is made all the more severe by waiting time targets being missed in A+E departments of many Welsh hospitals, leading to some patients, in severe cases, having to wait in Ambulances. The Welsh Government set a four hour waiting time target of 95% and has missed it once again. Ceredigion’s NHS has managed to keep figures high, treating 92.5% of visitors to A+E services within the allocated time. But unfortunately, the same standard hasn’t been reached by other health boards across Wales, with Abertawe Bro Morgannwg University Health Board recording only 17% of waiting times.

Although clearly we welcome the drop in the number of patients spending longer than 12 hours in A+E, the statistics on waiting times clearly indicate that the service continues to be over-stretched. This is why the Party of Wales opposes the Labour Welsh Government’s plans to operate fewer A+E departments in Wales.

Tackling the problem of long waiting times in A+E requires better services to keep people out of hospital in the community, and a merged health and social care system to enable people to be discharged from hospital. This is why Plaid Cymru has agreed a £50 million intermediate care fund with the Welsh Government to provide these services in the community, and has also proposed the merger of health and social care.

Our ambitious plans to recruit an extra 1,000 doctors over two terms of a Plaid Cymru-led Government would also have a dramatic impact on waiting times.

Gwasanaeth Ambiwlans yn Achosi Pryder Yng Ngheredigion ac ar Hyd Cymru Gyfan.

Elin JOnes Ysbyty Bronglais

Mae’r newyddion bod cyfnodau ymateb y gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru yn gwaethygu o dan reolaeth Llywodraeth Lafur yng Nghymru yn peri pryder. Targed yr ymddiriedolaeth Ambiwlans yw cyrraedd 65% o alwadau brys o fewn 8 munud. Y ffigwr ar gyfer mis Gorffennaf oedd 58.3%, gyda rhai ardaloedd, gan gynnwys Ceredigion, yn gostwng o dan 50%.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau er mwyn ymestyn ‘Menter Trafnidiaeth Amgen’ i ogledd Cymru gan ychwanegu at y prosiect peilot sydd eisoes ar waith yn y de-ddwyrain. Mae’r fenter yn annog cleifion o flaenoriaeth isel i ddod o hyd i ffyrdd eraill o gyrraedd ysbytai, gan gynnwys tacsis neu drwy gael cynnig lifft.
Fel Gweinidog Iechyd yr Wrthblaid, mae’n flin gen i glywed y newyddion, oherwydd mae’n amlwg bod y gwasanaeth Ambiwlans o dan straen sy’n cynyddu’n gyson. Croesawaf y buddsoddiad yn y cerbydau newydd a chyflogi’r staff ychwanegol, ond er i nifer o addewidion gan Lywodraeth Cymru, mae targedau’r ymddiriedolaeth Ambiwlans yn dal i achosi pryder mawr i bobl Ceredigion a Chymru gyfan.
Mae angen ystyried y sefyllfa yn ei chyfanrwydd, a hynny gyda chydweithrediad gwell gyda’r Byrddau Iechyd amrywiol er mwyn lleihau’r oedi wrth drosglwyddo cleifion. Byddwn yn ystyried canlyniadau’r arbrawf ‘Menter Trafnidiaeth Amgen’. Er bod yn rhaid i’r gwasanaeth ambiwlans blaenoriaethu achosion brys, nid oes moddau teithio arall i’w gael o hyd i bawb, ac mae’n rhaid i ni sicrhau nad yw ardaloedd fel Ceredigion dan anfantais bellach.
Mae’r sefyllfa’n gymaint â hynny’n fwy difrifol o ganlyniad i dargedau amser yn cael eu methu mewn rhai adrannau damwain ysbytai Cymru sydd, yn ei tro, wedi arwain at rai achosion eithafol lle mae cleifion wedi gorfod aros yn segur am gyfnodau hir mewn Ambiwlansys. Gosododd Llywodraeth Cymru targed amser o 4 awr ar gyfer 95% o achosion ac fe’i methwyd unwaith eto. Mae’r Gwasanaeth Iechyd yng Ngheredigion wedi medru cadw’r ffigyrau’n uchel, gan drin 92.5% o ymwelwyr i’r gwasanaethau damwain o fewn yr amser nodedig. Ond, yn anffodus, ni ellid dweud yr un peth am fyrddau iechyd eraill ar hyd Cymru, gydag ond 17% o ymwelwyr i Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn cyrraedd y targed.
Er yn amlwg i ni groesawi’r lleihad mewn niferoedd y cleifion sy’n aros dros 12 awr i dderbyn triniaeth yn yr adrannau damwain, mae’r ystadegau amseroedd aros yn ddatganiad clir eu bod yn dal i fod dan straen. Dyma pam mae Plaid Cymru yn gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Cymru Lafur i weithredu llai o adrannau damwain yng Nghymru.
Mae ymdrin â phroblem y cyfnodau aros hir yn yr adrannau damwain yn gofyn am wasanaethau gwell er mwyn cadw pobl yn y gymuned, a hynny trwy system Iechyd a Gofal Cymdeithasol sydd wedi cyfuno er mwyn galluogi i gleifion cael eu rhyddhau o’r ysbyty’n gynt. Dyma pam fod Plaid Cymru wedi cytuno gyda Llywodraeth Cymru ar fuddsoddiad o £50 miliwn i gronfa ofal canolraddol er mwyn cynnig y gwasanaethau hyn o fewn y gymuned, a hefyd wedi cynnig cyfuniad i’r gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Fe fydd ein cynllun uchelgeisiol i gyflogi dros 1,000 o ddoctoriaid ychwanegol dros ddau dymor o Lywodraeth wedi’i harwain gan Blaid Cymru yn cael effaith trawiadol ar gyfnodau aros.

Newyddion gwych ar daliadau parseli

Ry’n ni wedi cael gwybod fod ymgyrch Plaid Cymru Ceredigion yn erbyn cwmniau sy’n codi tal ychwanegol i ddosbarthu i ardaloedd ‘pellennig’ wedi bod yn llwyddiant.

Roedd gan DHL bolisi o godi £16 ychwanegol am barseli i nifer o godau post Cymreig, gan gynnwys SY23, SY24 a SY25 yn ardaloedd Aberystwyth a Thregaron, ond o 1 Ionawr bydd y tal yn cael ei ddiddymu.

Ar y cyd gyda Mike Parker, ymgeisydd San Steffan Plaid Cymru yng Ngheredigion, lansiais ddeiseb yn erbyn y taliadau ym mis Mehefin, a lobio DHL i newid ei pholisi.

Rwy’n hynod o falch fod DHL wedi penderfynu adolygu eu taliadau yn sgil lansio’r ymgyrch. Doedd y polisi byth yn gwneud synnwyr i mi; doedd dim cyfiawnhad dros ddisgrifio Aberystwyth yn ‘bellenig’ pan oedd llefydd eraill tebyg ddim yn gorfod talu’n ychwanegol.

Felly o ddechrau 2015, bydd cwsmeriaid DHL yn talu’r un faint i bostio parseli i Geredigion ac ym mhobman arall. Mae Ceredigion wedi mynnu chwarae teg, ac wedi ennill!

Diolch i bawb a arwyddodd y ddeiseb i helpu rhoi pwysau ar DHL.